Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024
Pwynt Craffu Technegol 1: Nodir y pwynt. Ystyrir bod y mewnosodiadau yn y testun Cymraeg yn effeithiol yn gyfreithiol ac y gall y darllenydd ganfod ymhle y bydd y diffiniadau yn cael eu mewnosod.
Pwynt Craffu Technegol 2: Nodir y pwynt. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio fel y nodir isod cyn eu gwneud.
Pwynt Craffu Technegol 3: Nodir y pwynt. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio fel y nodir isod cyn eu gwneud.
Cywiriadau drafftio technegol i’w gwneud cyn gwneud y Rheoliadau
|
CYWIRIADAU I'R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU |
CYWIRIADAU I'R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU |
|
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024 |
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024 |
|
Bydd rheoliadau 8(d)(vi) a (vii) yn cael eu hailrifo 8(e) ac (f) yn unol â hynny. |
Bydd rheoliadau 8(d)(vi) a (vii) yn cael eu hailrifo 8(e) ac (f) yn unol â hynny. |
|
Bydd rheoliad 13(c)(i) yn cael ei ddiwygio i fewnosod, ar y dechrau, y geiriau “in the English language text,”. |
|
|
Bydd mân faterion fel fformatio, mân newidiadau i’r nodyn esboniadol a’r troednodiadau a chywiro gwallau teipograffyddol hefyd yn cael eu cywiro cyn gwneud y Rheoliadau. |
|